fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae The Story of Guitar Heroes, un o brofiadau cyngerdd fyw pennaf y DU, wedi’i ganmol gan y beirniaid gartref a thramor am ei deyrnged anhygoel i’r gitaryddion mwyaf dylanwadol ac eiconig o’r 50 mlynedd diwethaf o gerddoriaeth boblogaidd.

Mae’r sioe, sy’n cynnwys cherddorion dawnus o’r radd flaenaf a thafluniad fideo tra chyfoes, yn teithio drwy pum degawd, o roc a rôl y 1950au hyd at gitarwyr enwocaf mwyaf creadigol ac ysbrydoledig yr oes fodern.

Mae The Story of Guitar Heroes sy’n enwog am ei dawn gerddorol amryddawn, yn ail-greu seiniau unigryw pob gitarydd enwog gyda chywirdeb anhygoel, a chan ddefnyddio cymaint â 30 gitâr gwahanol o’r iawn ryw

Gallwch ddisgwyl caneuon ysgubol poblogaidd gan enwogion fel Hank Marvin, Chuck Berry, Eric Clapton, Jimi Hendrix, Brian May, Jimmy Page, Mark Knopfler, Van Halen, Slash a llawer mwy!

Dyddiad
20 HYD 2023
Lleoliad
Swansea Grand Theatre