fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

I ddathlu 75 o flynyddoedd anhygoel yn y byd adloniant, mae Sooty, Sweep a Soo yn trefnu parti pen-blwydd arbennig iawn y gwahoddir pob un ohonoch iddo. Fodd bynnag, fel sy’n naturiol i Sooty, does dim yn mynd yn ôl y bwriad!

Mae’r paratoadau ar gyfer y parti wedi hen ddechrau; mae Sooty’n gwneud llanast wrth bobi’r deisen ben-blwydd, mae Soo yn ceisio dod o hyd i’r ffrog berffaith ar gyfer y parti ac mae Sweep yn ymarfer ei ddawnsio ac mae angen bechgyn a merched arno i ymuno mewn gêm o ddelwau cerddorol! Mae Sooty’n trefnu’i dric hud a lledrith mwyaf erioed i wneud i aelod o’r gynulleidfa arnofio yn yr awyr! A chadwch lygad am wn dŵr newydd Sooty. Mae’n ddigon pwerus i gyrraedd cefn y theatr, felly cofiwch eich cot law!

Mae’r gwestai arbennig ar eu ffordd, Butch y ci tarw, Ramsbottom y neidr a seren y syrcas, Michael Jordan, sy’n ymuno â ni’n syth o’r Tower Circus enwog yn Blackpool i’n difyrru gyda’i jyglo syfrdanol!

Gyda digonedd o gyfranogiad gan y gynulleidfa a llawer o chwerthin, bydd y dathliad arbennig hwn o’r sioe deledu i blant fwyaf hirhoedlog yn y byd yn difyrru pawb sy’n dwlu ar Sooty ac mae’n sioe y mae’n rhaid i’r holl deulu ei gweld.

Hefyd – ymunwch â ni ar ôl y sioe i gwrdd â Richard a Sooty!

Dyddiad
01 TACH 2023
Lleoliad
Swansea Grand Theatre