Drama a gafodd ei henwebu am wobr Olivier gan Neil Anthony Docking yw The Revlon Girl.
Mae’r stori’n digwydd wyth mis ar ôl trychineb Aberfan ym 1966, lle lladdwyd 144 o bobl (116 ohonynt yn blant), ac mae grŵp o famau mewn profedigaeth yn cwrdd yn wythnosol uwch ben gwesty lleol i siarad, crio a hyd yn oed chwerthin heb deimlo’n euog. Yn ystod un o’u cyfarfodydd blaenorol, edrychodd y menywod ar ei gilydd gan gyfaddef eu bod yn teimlo eu bod wedi esgeuluso’u pryd a gwedd. Gan eu bod yn ofni y byddai pobl yn meddwl eu bod yn wamal, maent yn gwneud trefniadau cyfrinachol i gynrychiolydd o Revlon ddod i roi sgwrs ar argymhellion harddwch iddynt.
Cynhelir y digwyddiad ar nos Fawrth wlyb mewn ystafell uwchben Gwesty Aberfan. Cyfarwyddir y cynhyrchiad hwn gan Gwmni Theatr Glo Coleg Sir Gâr gan Simon Neehan (Carwyn ar gyfer Theatr Torch) ac mae’n cynnwys Hayley Gallivan (Wicked, Oliver, Beauty and the Beast) fel Marilyn.