fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Peidiwch â’i gwylio’n unig. Dewch i’w datrys!

The Mousetrap gan Agatha Christie yw’r ddrama fwyaf hirhoedlog yn y byd. Y cynhyrchiad gwefreiddiol hwn o’r West End yw drama ddirgelwch llofruddiaeth orau’r nofelydd sydd wedi gwerthu’r mwyaf o lyfrau erioed… a dyna’r ddiwedd arni!

Wrth i newyddion gael ei rhannu am lofruddiaeth yn Llundain, mae grŵp o saith o ddieithriaid yn cael eu caethiwo gan eira mewn gwesty gwledig urddasol. Pan mae sarsiant o’r heddlu yn cyrraedd, mae’r gwesteion yn darganfod, er mawr arswyd iddynt, fod llofrudd yn eu plith! Fesul un, mae’r cymeriadau amheus yn datgelu eu cyfrinachau brwnt. P’un yw’r llofruddiwr? Pwy fydd yn cael ei lofruddio nesaf? Allwch chi ddatrys y dirgelwch cyn i rywun arall gael ei lofruddio?

Am bron i 70 mlynedd, mae The Mousetrap gan Agatha Christie wedi cadw miliynau o bobl o bob cwr o’r byd ar ymyl eu seddi. Ai chi fydd nesaf?

Dyddiad
25-30 MED
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
18.00