fbpx

Cariad, chwerthin a chlymau o garwriaethau

Dylai fod y diwrnod hapusaf ym mywydau Figaro a Susanna ond a fydd eu priodas yn cael ei chynnal o gwbl? Mae Iarll Almaviva yn benderfynol o hudo Susanna, ond a fydd ei wraig yn darganfod y gwir? A fydd Figaro yn gallu trechu ei feistr, er anrhydedd ei ddarpar wraig? Neu a fydd y Cherubino ifanc yn drysu pethau fwy byth? Yn y stori gyfareddol hon am gariad, ffyddlondeb a cham-adnabyddiaeth, mae’r barbwr ffraeth yn canfod ei ffordd drwy droeon annisgwyl cymhlethdodau cymdeithasol y 18fed ganrif gyda dengarwch a hiwmor, a chynlluniau clyfar a fydd yn eich cadw ar flaen eich sedd hyd at y nodyn olaf.

Mae cynhyrchiad WNO, sydd wedi ei osod yn yr oes o’r blaen, yn cynnwys setiau cain, gwisgoedd godidog a holl gynhwysion opera glasurol. Felly, ymunwch â ni wrth i ni gamu i fyd The Marriage of Figaro lle mae cariad a chwerthin yn cydgyfeirio mewn troellwynt o gynlluniau clyfar a gwychder melodig Mozart.

Arweinydd Kerem Hasan

Cyfarwyddwr Tobias Richter

Cyfarwyddwr Adfywiol Max Hoehn

Cyd-gynhyrchiad â Grand Théâtre de Genève . Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg

 

Archebwch Docynnau

Dyddiad
27 CHWE 2025
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
21.00
Archebwch docynnau