Cyflwynir gan y Ditectif a ddaeth â’r Lladdwr Lluosog PETER TOBIN o flaen ei well
Ymunwch â’r Ditecitf Albanaidd, David Swindle, am noson iasol a chyffrous yn y theatr.
Gall y rheini sy’n ymddiddori mewn troseddau go iawn, a phobl chwilfrydig archwilio’r achosion, yr amgylchiadau a safbwynt y ditectif ar yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd, yr arwyddion cynnar a’r cliwiau y tu ôl i The Makings of a Murderer!
Beth sy’n ysgogi lladdwr lluosog? Beth yw’r arwyddion diamau? Beth sydd wir yn digwydd y tu ôl i’r llenni?
Dysgwch am y lladdwyr lluosog gwaethaf yn hanes Prydain – gan gynnwys ‘Jack the
Ripper’, Peter Tobin, Harold Shipman, Peter Sutcliffe a’r cyplau sydd wedi lladd, Fred a Rose West a ‘The Moors Murderers’, Ian Brady a Myra Hindley.
Bydd David, sydd â thros 34 o flynyddoedd o brofiad fel uwch-dditectif, yn rhannu’i fewnwelediad unigryw i feddyliau’r llofruddion, yr achosion drwgenwog na chawsant byth eu datrys a sut llwyddodd y llofrudd i beidio â gael ei ddal… gan rywun o’r tu mewn.
Mae David – yr oedd ei Ymgyrch arloesol sef Anagram wedi datgelu gweithgareddau Tobin – yn creu darlun sy’n aml yn dywyll i egluro sut y daw’r bobl hyn yn lladdwyr, yn y profiad clyweledol cyffrous newydd hwn, sy’n hollol ryngweithiol.
“Mae lladdwyr lluosog yn bobl sy’n mwynhau rheoli eraill, maen nhw’n gyfrwys, yn gynllwyngar, yn ofalus, ac – mae’n gas gen i ddweud hyn – yn glyfar,” meddai David. “Maent yn byw bywydau sy’n ymddangos yn normal ac yn llwyddo i beidio â chael eu dal am eu troseddau am flynyddoedd… nes y cânt eu dal yn y diwedd.”
Mae David hefyd yn edrych ar y cysylltiadau sydd gan rai o’r achosion llofruddiaeth enwocaf â’r ardal leol.
The Makings of a Murderer! – noson iasol a chyffrous yn y theatr na ddylid ei cholli.