Pan mae cynhyrchiad traddodiadol o ddrama glasurol Oscar Wilde yn dechrau, mae’n ymddangos bod popeth yn mynd yn berffaith iawn… hynny yw, nes bod y prif actor yn methu â chyrraedd mewn pryd.
Efallai eich bod yn meddwl eich bod yn gyfarwydd â’r stori hon am gariad, cam-adnabod a bywydau dwbl, ond dydych chi erioed wedi’i gweld hi fel hyn o’r blaen. Yn llawn ffraethineb drygionus Wilde, ymunwch â ni am addasiad hynod ddoniol ac anrhagweladwy o hoff gomedi glasurol y byd.