Yn seiliedig ar nofel Victor Hugo a chaneuon o ffilm animeiddiedig Disney, mae The Hunchback of Notre Dame yn cyflwyno sgôr a enwebwyd am Wobr gan yr Academi, yn ogystal â chaneuon newydd gan Menken a Schwartz. Mae llwyfaniad newydd Peter Parnell yn enghraifft wych o theatr stori ac yn cynnwys darnau gair am air o nofel gothig Hugo.
Mae’r sioe gerdd yn dechrau wrth i glychau Notre Dame ganu drwy’r eglwys gadeiriol enwog yn ystod y bymthegfed ganrif ym Mharis. Mae Quasimodo, y canwr clychau camffurfiedig sy’n dyheu am gael bod “Out There,” yn arsylwi ar Baris gyfan yn gorfoleddu yng Ngŵyl y Ffyliaid. Wedi’i garcharu gan ei ofalwr cyfrwys, yr archddiacon Dom Claude Frollo, mae’n dianc am y diwrnod ac yn ymuno â’r dorf llawn hwyl, dim ond i gael ei drin yn greulon gan bawb heblaw am y fenyw Romani dlws, Esmeralda. Nid Quasimodo yw’r unig un i gael ei gyfareddu gan ei hysbryd llon, mae’r Capten Phoebus golygus a Frollo wedi’u swyno ganddi hefyd. Wrth i’r tri ohonynt geisio dal ei sylw, mae Frollo’n dechrau ar ymgyrch i ddinistrio’r Roma a gwaith Quasimodo yw eu hachub nhw i gyd.
Gyda sgôr cyfareddol a stori bwerus, mae The Hunchback of Notre Dame yn glasur. Caiff cynulleidfaoedd eu cyfareddu gan hud a lledrith y sioe gerdd wych hon.
01 Mai 2024
19:15pm - 22:00pm
02 Mai 2024
19:15pm - 22:00pm
03 Mai 2024
19:15pm - 22:00pm
04 Mai 2024
14:15pm - 17:00pm
04 Mai 2024
19:15pm - 22:00pm