fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Yn dilyn taith lle gwerthwyd pob tocyn yn 2022, mae James Phelan, y consuriwr sy’n ddrwgenwog am lenwi switsfwrdd y BBC ar ôl rhagweld rhifau’r loteri yn gywir yn cyflwyno sioe newydd sbon ar gyfer 2023.

Bydd y sioe pum seren hon sy’n llawn hud a lledrith yn gwneud i chi chwerthin nes eich bod yn wan ac yn eich synnu’n llwyr.

Cyfarwyddwyd y sioe gan y diweddar Paul Daniels fel rhan o’i brosiect theatraidd diwethaf felly mae’n hawdd gweld pam y’i disgrifiwyd fel ‘un na ddylid ei cholli ym myd hud a lledrith’ gan gylchgrawn The List.

Mae’r sioe hon, sy’n cynnwys cipolwg enigmatig a chlodwiw ar un o’r celfyddydau mwyaf diddorol yn eich tywys i fyd syfrdanol comedi ysgafn, rhyfeddod a dirgelwch.

Fe’i cynhelir am un noson ac mae’n siŵr o werthu pob tocyn, felly peidiwch â cholli’r hud!

Dyddiad
25 HYD 2023
Lleoliad
Swansea Grand Theatre