fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Teyrnged i Whitney Houston.

Yn syth ar ôl ymddangos yn rownd derfynol sioe wych Britain’s Got Talent,mae Belinda Davids yn dychwelyd i’r DU gyda’i sioe lwyfan glodwiw.

Daw etifeddiaeth gerddorol Whitney Houston yn fyw yn y sioe deyrnged glodwiw hon sy’n cael ei disgrifio fel un sy’n “syfrdanol o agos ati”.

Cewch eich syfrdanu gan lais gwefreiddiol Belinda Davids – artist sydd wedi cyrraedd brig y siartiau RiSA yn ei mamwlad De Affrica – sydd wedi perfformio ochr yn ochr ag enwogion fel Keri Hilson, Keyshia Cole a Monica, yn ogystal ag ymddangos ar ‘Showtime at the Apollo’ ar FOX TV ac ‘Even Better Than the Real Thing’ ar BBC1.

Gyda chyfeiliant band byw, lleisiau cefndir a dawnswyr wedi’u coreograffu, ynghyd â sain, goleuo ac effeithiau gweledol a theatr o’r radd flaenaf, mae hon yn deyrnged grefftus a chywrain i un o gantorion mwyaf uchel ei pharch y byd.

Bydd y cynhyrchiad dwyawr yn eich llenwi â phleser, hiraeth a rhyfeddod wrth iddo fynd â chi ar daith ddidwyll trwy ganeuon mwyaf poblogaidd Houston, gan gynnwys ‘I Will Always Love You’, ‘I Wanna Dance With Somebody’, ‘How Will I Know’, ‘One Moment in Time’, ‘I Have Nothing’, ‘Run to You’, ‘Didn’t We Almost Have It All’, ‘Greatest Love of All’, ‘I’m Every Woman’, ‘Queen of the Night’, ‘Exhale (Shoop Shoop)’, ‘Million Dollar Bill’ a mwy.

Mae The Greatest Love of Alleisoes wedi syfrdanu cynulleidfaoedd ar draws y DU, Ewrop, y Dwyrain Canol, Asia, De Affrica, Awstralia a Seland Newydd, ac mae’n parhau i dderbyn adolygiadau disglair ledled y byd.

*Nid yw’n gysylltiedig ag ystad Whitney Houston.

Dyddiad
20 HYD 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
34.50