fbpx

Gefnogwyr rygbi, mae’n amser i chi ddod ynghyd gan fod arwyr Lloegr, James Haskell a Mike Tindall, yn mynd â phodlediad rygbi mwyaf poblogaidd y byd – The Good, The Bad and The Rugby – ar daith.

Bydd y daith fyw yn nodi taith gyntaf y podlediad poblogaidd, sydd wedi tyfu i fod yn un o bodlediadau chwaraeon mwyaf y DU ers ei lansio yn ystod haf 2020, gyda mwy na 3 miliwn o wrandawyr a  thros 20 miliwn o wylwyr ar-lein.

Mae tocynnau ar werth nawr yn www.cuffeandtaylor.com

Bydd Alex Payne, cyd-gyflwynydd y podlediad a chyflwynydd rygbi blaenorol Sky Sports yn ymuno â James a Mike.

Bydd y triawd yn ailgreu’r sgyrsiau doniol maent yn eu cael ar y podlediad wrth i’r da (Alex), y drwg (James) a’r rygbi (Mike) rannu straeon am fod ar y cae ac oddi arno yn ystod noson llawn chwerthin a phethau annisgwyl.

Wrth gyhoeddi’r daith, meddai Mike, “Ers lansio’r podlediad The Good, The Bad and The Rugby, rydym wedi dod yn ffrindiau gwell fyth trwy’r straeon rydym wedi eu rhannu a’r straeon mae ein gwesteion wedi’u rhannu. Nawr rydym yn edrych ymlaen at fynd ar daith, rhannu rhagor o straeon o’n bywydau rygbi a chwrdd â’n gwrandawyr – ac efallai clywed ychydig o straeon ganddyn nhw.”

Mae penodau o’r podlediad wedi cynnwys cipolygon ar fywydau pob un o’r dynion – yn gynharach eleni, cyhoeddodd Mike enedigaeth ddramatig ei fab ar lawr yr ystafell ymolchi – yn ogystal ag ymddangosiadau gan rai o sêr rygbi mwyaf y byd.

Ychwanegodd James, “Rydym yn cael cymaint o hwyl yn creu pob pennod o The Good, The Bad and The Rugby, gan ymgolli mewn amrywiaeth eang o bynciau am 90 munud. Mae Mike a finnau wedi mwynhau teithio gyda Lloegr – a nawr mae gennym ein taith ein hunain… mae’n mynd i fod yn wych!”

Meddai Alex, “Mae’n bleser bod wrth y bwrdd gyda James a Mike bob wythnos, lle byddwn yn eistedd ac yn sgwrsio – a pha ffordd well o ddathlu hynny na’i wneud ar daith?”

Mae The Good, The Bad and The Rugby – LIVE yn addo ailgreu hud penodau wythnosol y podlediad, sy’n cynnwys sgyrsiau am rygbi yn ogystal â phwyntiau trafod ehangach am chwaraeon a diwylliant pop. Mae llawer o lwyddiant y sioe o ganlyniad i’w hapêl at gefnogwyr rygbi, ac mae hefyd yn denu cynulleidfa ehangach.