fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Taith y Goreuon a Mwy.

Sioe deyrnged anhygoel sy’n dathlu cerddoriaeth wych Jeff Lynne a The Electric Light Orchestra.

Does dim angen sôn am yrfa anhygoel Jeff Lynne & The Electric Light Orchestra – a rhwng 1972 a 1986 cawsant fwy na 40 o ganeuon yn y siartiau yn y DU ac yn UDA nag unrhyw fand arall ar y blaned. ‘10538 Overture’, ‘Evil Woman’, ‘Living Thing’, ‘Diary of Horace Wimp’, ‘Don’t Bring me Down’ ac wrth gwrs ‘Mr Blue Sky’. Daeth eu caneuon yn drac sain ein bywydau. Yn 2016, daeth ELO Jeff Lynne yn ôl i’r amlwg pan ryddhawyd albwm newydd sbon, ‘Alone In The Universe’ ac aeth y band ar daith ar draws y byd.

Bydd sioe The ELO Experience yn cynnwys y caneuon mwyaf poblogaidd o gasgliad helaeth a thrawiadol sy’n cwmpasu dros 45 o flynyddoedd. Gan gyfuno rhythmau roc â dylanwadau clasurol, rhyddhaodd ELO lawer o albymau clasurol megis ‘A New World Record’, ‘Discovery’ ac ‘Out of the Blue’. Aeth y band ar lawer o deithiau lle gwerthwyd pob tocyn, gan eu sefydlu fel un o’r bandiau pwysicaf a mwyaf dylanwadol erioed.

Mae The ELO Experience, sef grŵp teyrnged mwyaf blaenllaw y byd i The Electric Light Orchestra, wedi bod yn cyflwyno’u cerddoriaeth ar lwyfannau byw ers 2006. Gydag adran linynnol syfrdanol, goleuadau trawiadol a sgrin daflunio fawr. Dewch i fwynhau’r sioe anhygoel hon sy’n mynd â chi ar daith drwy amser!

Sioe band teyrnged rhif 1 swyddogol y DU 2013-2018 a bleidleisiwyd gan Gymdeithas Asiantau PF. Gwobr Llwyddiant Gydol Oes 2018 – dyfarnwyd gan Wobrau Cerddoriaeth Deyrnged Cenedlaethol Prydain Fawr

 

Archebwch Docynnau 

Dyddiad
08 MAW 2024
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
30.00