Mae’r grŵp enwog wedi cael eu derbyn i’r ‘Rock & Roll Hall of Fame’, maent wedi perfformio i Arlywydd yr Unol Daleithiau ac fe’u rhestrir ymhlith yr Artistiaid Gorau a fu Erioed gan gylchgrawn Rolling Stone.
Dan arweiniad Tina Treadwell (merch sylfaenwyr gwreiddiol y grŵp, George a Faye Treadwell) mae The Drifters wedi mwynhau ailgyfodiad yn y blynyddoedd diweddar, gydag amryfal deithiau llwyddiannus o’r DU, gan gynnwys sioeau mewn arenâu mawr lle’r oeddent yn brif act ac, yn fwyaf nodedig, yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain, lle buont yn perfformio am y tro cyntaf yn eu gyrfa ddisglair. “Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant ein teithiau diweddar o’r DU ac rydym yn eich gwahodd chi i gyd i ymuno â ni i barhau i ddathlu stori fythol ac anhygoel The Drifters.” meddai Tina, wrth siarad am y daith.