Prif berfformiwr y sioe fydd Spencer Jordan fel Buddy Holly, a fydd yn perfformio gyda chefnogaeth grŵp ardderchog o gerddorion a chantorion. Felly, ymunwch â ni am ein noson roc a rôl gyda The Class of 55.
Bydd y cymysgedd o ganeuon hyn o’r gorffennol, a fydd yn cynnwys y perfformiwr gwadd Peter Gill fel ‘The Killer‘ a chaneuon poblogaidd Buddy Holly, yn siŵr o wneud i chi ddawnsio yn eich seddi, gyda chaneuon blynyddoedd cynnar Sun hyd at y campwaith eiconig ‘Roll Over Beethoven’.
Os ydych chi’n hoff o roc a rôl, byddwch chi’n dwlu ar The Class of 55.
Gyda thafluniadau ar y sgrin fawr ac adroddiad.