fbpx

Mae sioe chwedegau orau’r DU yn dychwelyd! Yn dilyn taith hynod lwyddiannus yn y wlad hon y llynedd, mae The Bootleg Sixties yn dychwelyd gyda’i gynhyrchiad gorau hyd yn hyn. Mae rhywbeth at ddant pawb sy’n dwlu ar y chwedegau. Bydd amrywiaeth o ganeuon ac artistiaid heb eu hail, a bydd yr agweddau gweledol yn eich tywys yn syth yn ôl i ddegawd euraidd cerddoriaeth bop.

Mae saith mlynedd o deithiau o gwmpas Ewrop wedi sicrhau mai The Bootleg Sixties sy’n cynnig y profiad byw gorau o’r 60au, ac mae’r strafagansa hon o bethau i’w gweld a’u clywed yn un na ddylech ei cholli. Os yw Syr Elton John, dyn sy’n gwybod llawer am berfformio, yn dweud ei fod yn debygol mai dyma’r band gorau o’i fath yn y byd, rydych chi’n gwybod eich bod yn sicr o gael gwledd!

Dyddiad
31 HYD 2023
Lleoliad
Swansea Grand Theatre