fbpx

Mae chwe blynedd wedi mynd heibio ers i sioe The Bootleg Sixties, a ystyrir gan fwyafrif y bobl sydd wedi’i gweld fel sioe orau’r chwedegau, fynd ar daith yn y DU, ac ers hynny dyma’r brif sioe o’i bath yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg… ac mae hi’n amser o’r diwedd i ddod â hi yn ôl adref!

Mae’r sioe syfrdanol hon sy’n llawn golygfeydd a sain yn cynnwys cerddoriaeth, ffilm a delweddau o ddegawd gorau pop, a’r cyfan yn cael ei berfformio gan The Overtures gwych. Gyda chaneuon gan artistiaid sy’n amrywio o The Beatles i Jimi Hendrix i Simon & Garfunkel, a chynhyrchiad o safon na fyddai’n edrych allan o le yn y West End yn Llundain, os ydych yn mwynhau’r chwedegau, dyma’r sioe i chi.

Dyddiad
19 HYD 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
27.00