Paratowch i rocio’ch ffordd drwy daith fythgofiadwy gyda’r unig sioe sydd wedi’i chymeradwyo gan Jon Bon Jovi ei hun! Ymgollwch mewn dathliad syfrdanol o glasuron diamser Bon Jovi wrth i The Bon Jovi Experience ail-greu’r hud a ddiffiniodd gyfnod a oedd yn llawn egni trydanol – gan eich cludo yn ôl i ddyddiau gorau roc stadiwm. Mae The Bon Jovi Experience yn cynnwys caneuon ysgubol fel ‘Livin’ On a Prayer,’ ‘Always’, ‘It’s My Life’, ‘You Give Love a Bad Name’, ‘Bad Medicine’ a llawer mwy. P’un a ydych wedi dilyn Jon Bon Jovi drwy gydol eich oes neu’n gefnogwr newydd sy’n chwilio am noson mas fythgofiadwy, mae’r sioe hon yn addo bod yn brofiad heb ei ail!