fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Dydd Gwener, 1 Rhagfyr 2023, 7.30pm

Paratowch i gael eich syfrdanu gan sioe deyrnged Queen enwocaf y DU – Majesty, mewn sioe newydd sbon – The Break Free Tour!

Ymunwch â Freddie, Brian, Roger a John wrth iddyn nhw fynd â chi ar daith hudol gan berfformio The Best of Queen  wrth ddathlu cerddoriaeth a dawn arddangos hoff fand roc y DU.

O ddechreuad cynnar Queen gyda Bohemian Rhapsody i’w cyngherddau yn Stadiwm Wembley lle gwerthwyd pob tocyn, byddwch yn profi uchafbwyntiau eu perfformiadau cerddorol anhygoel wrth i chi ail-fyw’r awyrgylch gwefreiddiol yr oedd Queen wedi’i gyfleu dros eu gyrfa llwyddiannus.

Ers dros 50 o flynyddoedd mae Queen wedi syfrdanu cynulleidfaoedd gyda’u cyngherddau byw ardderchog, eu hanthemau enwog a’u cynyrchiadau syfrdanol ar raddfa enfawr. Gydag 18 albwm rhif 1, 18 sengl rhif 1 a bron 300 miliwn o albymau wedi’u gwerthu, does dim syndod bod Queen yn cael eu cydnabod fel band roc gorau’r byd.

Pris £30.00

Dyddiad
01 RHAG 2023
Lleoliad
Swansea Grand Theatre