fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Dathliad arbennig o gerddoriaeth ddiamser un o’r grwpiau mwyaf poblogaidd erioed yw The Best of Frankie Valli and the Four Seasons.

Mae’r daith gerddorol, hiraethlon hon yn talu teyrnged i fywyd a gyrfa’r pedwar bachgen hwnnw o Jersey a ddechreuodd ganu o dan golau stryd, ond a aeth ymlaen i ddod yn un o’r grwpiau enwocaf erioed.

O strydoedd New Jersey i Broadway a’r West End cyffrous, mae’r gerddoriaeth anhygoel hon wedi diddanu cynulleidfaoedd am dros 5 degawd – mae The Best of Frankie Valli and the Four Seasons yn cynnwys eich hoff ganeuon fel Sherry, My Eyes Adored You, Big Girls Don’t Cry, Can’t Take My Eyes Off You a llawer mwy.

Gydag aelodau cast o’r sioe hynod boblogaidd, Jersey Boys sydd wedi ennill gwobr Tony yn ogystal â sioeau cerdd eraill y West End, bydd The Best of Frankie Valli and the Four Seasons yn codi’ch hwyliau ac yn sicr o wneud i chi ymuno yn y canu! Gyda Gareth Gates.

Archebwch Docynnau

Dyddiad
17 CHWE 2024
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
37.50