Wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan awdur The Haunting of Blaine Manor, Joe O’Byrne.
Dim ond mainc yn y parc yw hi, yr un ger y gofeb ryfel. Lleidr, dyn digartref, dau leidr, dau gyn-filwr, artist, gweddw, deliwr cyffuriau, clirweledydd, benthyciwr arian didrwydded, angel ac ysbryd.
Maent i gyd wedi eistedd yma o leiaf unwaith eleni. Caiff un ohonynt ei lofruddio yma…