fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Addasiad newydd o stori glasurol Lewis Carroll.

Beth petai dieithryn yn dod i mewn i’ch byd gan achosi dim byd ond anrhefn llwyr? Mewn tir lle cydbwysir gwallgofrwydd yn dyner, dylai ymwelwyr gamu’n ofalus. Gwers y mae’n rhaid i Alice ei dysgu…

Cynhyrchiad newydd hyfryd sy’n edrych ar stori glasurol Carroll o ongl newydd. Ymgollwch ym myd Alice a’i hanturiaethau yng Ngwlad Hud. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys pypedwaith a ddyluniwyd gan Matthew Forbes, Cyfarwyddwr Pypedwaith Cyswllt cynhyrchiad arobryn y Theatr Genedlaethol, War Horse. Neidiwch i mewn i’r twll cwningen a chewch fwynhau ymddangosiadau gan gymeriadau’r stori sydd wedi’u darlunio’n hyfryd, gan gynnwys Brenhines frawychus y Calonnau.

Trît i’r teulu cyfan.  Mae’r stori ddiamser a gweledol hardd hon yn addas i bob oed. Peidiwch â bod yn hwyr da chi!

Dyddiad
25 GOR 2023
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
22.00