The Ultimate Tribute to ABBA.
Yn galw ar bawb sy’n dwlu ar ddawnsio, dyma’ch noson i ddweud ‘Thank You For The Music!’
Mae’r sioe deyrnged hon sydd wedi cael llwyddiant rhyngwladol yn dod â holl ganeuon ABBA a gyrhaeddodd frig y siartiau i’r llwyfan mewn cynhyrchiad hollol unigryw. Mae’r sioe boblogaidd iawn hon, sydd bellach yn 20 oed, yn cyfuno harmonïau adnabyddus, gwisgoedd lliwgar a pherfformiadau disglair gan ein cast enwog.
Ymunwch â ni ar gyfer parti’r flwyddyn – gallwch ddawnsio a chael noson orau’ch bywyd wrth i ni gyflwyno’r holl ffefrynnau fel Waterloo, Dancing Queen, Super Trouper, Mamma Mia, Knowing Me, Knowing You, Gimme, Gimme, Gimme, The Winner Takes It All a llawer, llawer mwy!
Sioe deyrnged yw hon ac nid yw’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid gwreiddiol/ystadau,/cwmnïau rheoli neu sioeau tebyg.
Mae gan yr hyrwyddwr yr hawl i newid y rhaglen.