Peidiwch â cholli’n digwyddiad Nadoligaidd arbennig iawn eleni! Mae gennym nifer cyfyngedig iawn o docynnau felly archebwch eich rhai chi nawr!! Wrth gyrraedd, bydd y coblynnod yn tywys eich plentyn i fwrdd Nadoligaidd arbennig iawn, lle bydd llythyr personol iddo ei lenwi â dymuniadau Nadolig er mwyn ei anfon at Siôn Corn. Bydd ein coblynnod ein hunain wedyn yn cynnal te-parti Nadoligaidd gyda chaneuon poblogaidd yr ŵyl, a byddwn yn croesawu gwestai arbennig iawn…. Siôn Corn! Bydd pob plentyn yn cael cyfle i gwrdd â Siôn Corn a rhoi ei lythyr i’r dyn ei hun yn bersonol, cyn derbyn anrheg Nadolig i fynd adref â hi (os yw wedi bod yn dda!).
Dyddiad: 8 Rhagfyr 2016
Amser: 4.30pm
Pris: £12 y plentyn (mae’r pris yn cynnwys cwrdd a chyfarch personol, llythyr personol, te-parti gyda choblynnod y Nadolig, anrheg a chwmni oedolyn)