fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Bydd y coblynnod yn llenwi ein Caffi Cwt Glan Môr unwaith eto er mwyn cynnal ein te-parti hynod lwyddiannus gyda Siôn Corn. Gyda disgo coblynnod ac amrywiaeth o fwyd parti blasus, bydd y parti’n llawn hwyl cyn i’r dyn ei hun gyrraedd! Bydd pob plentyn yn derbyn ei lythyr wedi’i bersonoli i roi i Siôn Corn ac yn cael ymweld ag ef yn ei groto cyn dewis anrheg i fynd adref o Weithdy’r Coblynnod a llythyr wedi’i bersonoli gan Siôn Corn (i’w agor ar Noswyl Nadolig yn unig!)

Mae hwn yn ddigwyddiad poblogaidd iawn felly cadwch le’n gynnar i osgoi cael eich siomi.

Dyddiadau:

Dydd Iau 14 Rhagfyr, 4.30pm

Dydd Iau 21 Rhagfyr 4.30pm

Tocynnau: £15.95 fesul plentyn (nid oes rhaid i oedolion brynu tocyn).

Gellir prynu tocynnau drwy glicio yma neu gallwch eu prynu ar y safle yn ein bwyty Copperfish.

Am fwy o wybodaeth neu ymholiadau, ffoniwch 01792 365200 neu e-bostiwch bookings@mumbles-pier.co.uk.

Dyddiad
14 RHAG 2017
Lleoliad
Mumbles Pier