Yn y sioe, bydd Sean a Lisa’n archwilio ac yn trafod pob math o bethau seicig a pharanormal mewn ffordd fywiog ac amheugar ar adegau.
Nid yw hon yn sioe gyfryngiaeth draddodiadol; bydd y noson yn cynnwys cymysgedd o drafodaethau, cyfranogiad gan y gynulleidfa a chyfryngiaeth ryngweithiol a chyffrous. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfryngiaeth neu ffenomenau seicig ac a yw ysbrydion yn codi ofn arnoch ai peidio, dyma’r sioe i chi.