Dydd Gwener 24 a Ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf
Mae 2020 yn flwyddyn fel dim arall, ac nid yw’n syndod bod gŵyl am ddim Taliesin Dyddiau Dawns eleni yn dilyn y thema honno.
Er na allwn ddod â pherfformiadau dawns byw i chi ar strydoedd Abertawe ym mis Gorffennaf, rydym wedi gweithio i ddod â Dyddiau Dawns i chi ar ffurf arall – yn ddigidol!
AMSERLEN DYDDIAU DAWNS DIGIDOL
Cliciwch ar y dlinciau i weld y digwyddiadau ar y dyddiad a’r amser a ddangosir. Peidiwch ag anghofio – gallwch osod nodyn atgoffa i chi’ch hun ar y linc.
Dydd Gwener 24 Gorffennaf
6.30pm 2 Faced Dance Company MOON
7.00pm ★ YN FYW Kitsch & Sync Collective BEDRAGGLED
7.30pm Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) Clapping
Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf
10.30am THROW DOWN COLOURS, MAKE THE IMAGE, RYGBI
Gweithdai dawns ar gyfer 4 oed ac i fyny wedi’u cyflwyno gan Lysgennad CDCCymru, Angharad Harrop..
11.00am CDCCymru gweithdy dawns ar gyfer plant – Clapping Kids
11.15am CDCCymru gweithdy dawns ar gyfer pob oed – RYGBI
12.00pm CDCCymru gweithdy dawns ar gyfer plant – Darganfod Dawns
2.00pm Well gyda’n gilydd (manylion i ddilyn)
6.15pm Cwmni Dawns Ieuenctid y Sir – With In/Out
6.30pm Mimbre LIFTED
7.15pm CDCCymru Rygbi: Annwyl i mi
7.45pm CDCCymru Mae chwyldro yn yr awyr – ymunwch â’r P.A.R.A.D.E
★ Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei ffrydio’n fyw ar Facebook
Bydd yr holl ddigwyddiadau eraill ar gael ar sianel You Tube Taliesin o’r amser a ddangosir ac am y saith niwrnod sy’n dilyn.
Cliciwch y tab Further Information uchod i gael manylion y perfformiadau.
Bydd mwy o fanylion am yr amserlen hefyd yn ymddangos trwy Facebook, Twitter ac Instagram.
Ni allwn aros i ddweud mwy wrthych!
Cyflwynir Diwrnodau Dawns Digidol eleni gan Ganolfan Gelf Taliesin gyda chefnogaeth garedig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Mewn blynyddoedd eraill, mae Dyddiau Dawns yn cael eu llwyfannu ar strydoedd Abertawe, gan roi cyfle i bawb weld y gorau mewn perfformiad dawns gan gwmnïau lleol a rhyngwladol. Mae Taliesin yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth werthfawr a roddir i’r digwyddiadau awyr agored hyn gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Cyngor Abertawe, ac Articulture.