Cynhelir y daith drwy Gymru rhwng 5 ac 8 Medi a bydd Abertawe’n rhan o’r digwyddiad gwych hwn ddydd Mawrth 5 Medi!
Lansiwyd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines o Balas Buckingham ar 13 Mawrth eleni. Bydd yn teithio dros 230,000km ar draws y Gymanwlad cyn cyrraedd seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad ar 4 Ebrill 2018 ar Arfordir Aur Awstralia.
Bydd yn cychwyn o Knab Rock Abertawe am oddeutu 7.30am, ac mae trefnwyr yn galw ar bobl Abertawe i fod yn rhan o’r digwyddiad drwy sefyll wrth ymyl y ffordd a chroesawu daliwr y baton wrth iddo gyrraedd.
Bydd 11 rhan i’r daith gyfnewid a chaiff y baton ei drosglwyddo drwy ddulliau cludiant amrywiol gan gyrraedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am oddeutu 10.30am.
Peidiwch â cholli Taith Gyfnewid Baton y Frenhines wrth iddo deithio drwy Abertawe ar ei daith trwy Gymru’r mis Medi hwn.
Knab Rock: