fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

 
Hoffech chi wybod mwy am baneli enwog Neuadd Brangwyn? Ymunwch â’n taith dywys i glywed y stori am sut daeth y gweithiau celf hynod liwgar hyn i Abertawe. Mae wir yn stori o fuddugoliaeth dros drychineb. Ystyrir Syr Frank Brangwyn yn un o artistiaid mwyaf cynhyrchiol ac amryddawn Prydain. Mae ei waith wedi derbyn canmoliaeth ryngwladol, ac mae paneli enfawr yr Ymerodraeth Brydeinig yn y Brangwyn ymysg rhai o enghreifftiau pwysicaf ei waith addurno ar raddfa fawr. Mae Neuadd Brangwyn yn enwog fel prif neuadd gyngerdd a chanolfan gynadledda a derbyn. Ymunwch â’n tywysydd i fynd y tu ôl i’r llenni, i ddarganfod ei hanes cudd a gwerthfawrogi’n well y paneli godidog a’u hartist.
Lluniaeth wedi’i gynnwys.
 
Tocynnau:
 
Oedolion £5.50 | Plant £3.50
01792 635428
Prynu Tocynnau yma
 
Neuadd Brangwyn:
 

Dyddiad
17 MED 2016
Lleoliad
Brangwyn Hall