Rhaglen
Grace Williams Sea Sketches
William Mathias Concerto for Harp
Edward Elgar ‘Enigma’ Variations
Artistiaid
BBC National Orchestra of Wales
Oherwydd amgylchiadau annisgwyl ni all Tadaaki Otaka arwain y cyngerdd hwn, ond rydym yn falch iawn y bydd Jac van Steen yn camu i’r adwy i arwain y rhaglen hon.
Catrin Finch – Y Delyn
Er bod Grace Williams wedi ysgrifennu ei morlun cerddorol hudolus, Sea Sketches, yn Llundain, cafodd y gwaith ei ysbrydoli gan hiraeth am y môr yn y Barri. Mae Cymreictod pendant hefyd yn perthyn i Goncerto William Mathias i’r Delyn; gyda’r delyn yn cael ei chyflwyno i’r gynulleidfa fel offeryn cyfeiliant, gan adlewyrchu ei rôl draddodiadol yng ngherddoriaeth Cymru, cyn symud i safle mwy unawdol, a dyfynnu’r gân Gymreig Dadl Dau yn ei symudiad clo. I berfformio, rydyn ni’n falch iawn o groesawu Catrin Finch, telynores ffantastig o Gymru ac wyneb cyfarwydd iawn i BBC NOW.
Gan daro cydbwysedd rhwng yr ysgafn a’r uchelwrol, mae Enigma Variations gan Elgar yn gasgliad dyfeisgar o frasluniau cerddorol o’i ffrindiau a hunanbortread astrus – enigma wedi’i guddio o fewn y sgôr wrth i bob amrywiad gael ei dagio gyda llythrennau cyntaf llysenwau’r ffrindiau.
Tocynnau £12.00 – £20.00