fbpx

Mae Sweeney Entertainments yn falch o gyflwyno’r sioe hon.

Gyda’i fand T Rex, Marc Bolan oedd un o sêr mwyaf lliwgar a charismatig yr oes Roc-glam wreiddiol.  Gyda chaneuon unigryw Bolan, cafodd y band lawer o ganeuon hynod lwyddiannus drwy gydol y 1970au, gan gynnwys Love to Boogie, Telegram Sam, Jeepster a 20th Century Boy.

Mae T Rextasy wedi bod yn perfformio ym mhedwar ban byd ers dros 20 mlynedd a hynny, yn eirong, yn yrfa sy’n hwy na gyrfa T Rex ei hun.  Dyma’r unig fand teyrnged byw swyddogol yn y byd i Marc Bolan a T Rex, a’r unig fand a gymeradwyir gan deulu Marc Bolan, ei ystâd, aelodau gwreiddiol T Rex a rheolwyr catalog Bolan.  Disgrifiwyd y band gan lawer fel ‘y tu hwnt i ffiniau teyrnged’.

Cyngerdd roc a rôl i bawb o bob oed. Os hoffech wybod sut beth yn union oedd cyngherddau Marc Bolan yn y 1970au, dyma’r sioe i chi!

Archebwch Docynnau

Dyddiad
20 EBR 2022
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
29.50