Dydd Sadwrn 17 a dydd Sul 18 Mehefin
Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Beth am fynd â’ch tad, eich llystad, neu hyd yn oed eich tad-cu allan am drît.
Rydym yn cynnig mynediad am ddim i dadau dros y penwythnos cyfan pan fyddant yng nghwmni eu plentyn/plant. Does dim gwahaniaeth beth yw oedran y plentyn, os ydych yn oedolyn neu beidio, dewch â’ch tad draw i fwynhau mynediad am ddim i Waith Tun a Rhaeadr Aberdulais.
Gwnewch gerdyn Sul y Tadau, mwynhewch bicnic wrth y rhaeadr neu gwyliwch y bywyd gwyllt ar yr afon. Treulio amser gyda’ch gilydd sy’n bwysig.
Prisiau mynediad arferol yn berthnasol. Mynediad am ddim i dadau pan fyddant yng nghwmni eu plentyn. Mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.