fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Wedi’u disgrifio gan The Guardian fel ‘y ddeuawd offerynnol orau ym myd cerddoriaeth draddodiadol’, ymddangosodd Spiers & Boden ym myd cerddoriaeth am y tro cyntaf yn 2001, ac, yn fuan iawn, enillodd y ddeuawd gasgliad o wobrau cerddoriaeth werin gan BBC Radio 2. Yn sgîl hyn, ffurfiodd ac arweiniodd y band mawr cerddoriaeth werin hynod lwyddiannus, Bellowhead, sydd wedi gwerthu pob un tocyn ar gyfer sawl perfformiad yn y Royal Albert Hall; mae’r band wedi cyfansoddi alaw thema The Archers ar Radio 4 ac fe’i clywyd yn ddiweddar ar drac sain BBC 1‘Beyond Paradise’.     

Ail-ffurfiodd y ddeuawd hynod boblogaidd yn 2021 ar ôl seibiant o saith mlynedd, gan ryddhau albwm newydd sbon sef ‘Fallow Ground’ ac enillodd hwn y 3ydd safle yn Siart Albymau Gwerin Swyddogol 2021 ar gyfer mis Medi a chyrhaeddodd restr y 10 albwm gwerin gorau yng nghylchgrawn Mojo yn 2021. 

‘Mae’r gerddoriaeth yn gywrain – mae’r pâr yn Feistri o hyd.’ The Observer 

‘Mae canu angerddol Boden yn ailfywiogi caneuon sydd heb gael eu clywed yn aml, ac mae ei ffidl yn cydweddu’n berffaith â melodion Spiers.The Scotsman  

Tocynnau cyffredinol £21.50, £10.00 am docynnau i bobl dan 26 oed ond nifer cyfyngedig o’r rhain sydd ar gael. 

 

Rhagor o wybodaeth a prynu tocyannu

Dyddiad
15 MAW 2024
Lleoliad
Canolfan Celfyddydau Taliesin
Price
21.50