Agorwch y drws i fyd cudd sy’n llawn ceinder a symudiadau dawns eiconig. O glybiau yfed Efrog Newydd i loriau dawns Havana, sîn blŵs Chicago, clybiau cabare Bwrlésg, a holl gyffro Studio 54. Dewch i wylio dawnsiau’r Mamba, y Charleston, y Ffocstrot a’r Salsa gyda’n cast syfrdanol o ddawnswyr, cantorion a cherddorion o’r radd flaenaf. Profwch noson sy’n cynnwys y dawnsiau gorau erioed gyda dawnswyr proffesiynol Strictly, Karen Hauer a Gorka Marquez.
Tocynnau: £57, £50, £40