Gyda Richard Mylan (Waterloo Road) a Sophie Melville (Iphigenia yn Splott)
“Dychmyga dy fod di wedi dy wneud o borslen a bod’na ffon ddeinameit tu fewn iti…”
Mae nyrs yn ymestyn at gwpwrdd y cyffuriau a reolir i leddfu poen trawma plentyndod. Mae un sy’n gaeth ers tro byd i gyffuriau’n boddi’r lleisiau yn ei phen trwy gymryd dôs yfory yn gynnar …
Mae llwybrau bywyd dau o bobl yn torri ar draws ei gilydd ar strydoedd Abertawe. Tybed a all yr un ohonyn nhw ddianc rhag y cylchdro neu’r cywilydd? A oes posibilrwydd i’r naill achub y llall?
Mae cynhyrchiad gwreiddiol cyntaf Grand Ambition yn seiliedig ar yr 20 mlynedd a dreuliodd Mylan yn byw’n gymharol weithredol tra’n gaeth i heroin. Mae’r ddrama’n gofyn inni: a oes y fath beth yn bod â chyffurgi derbyniol, a phaham ein bod ni fel cymdeithas yn mynnu bod gwahaniaeth rhwng rhai derbyniol ac annerbyniol?
Darperir capsiynau ym mhob perfformiad; cyflwynir perfformiadau â chyfieithiad BSL ar 03/03 a 09/03
Canllawiau oedran: 16+, yn cynnwys iaith fras a themâu sy’n addas i oedolion.
Rhybudd: yn cynnwys trafodaeth am gamddefnyddio sylweddau, cam-drin yn ystod plentyndod a hunanladdiad.