fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Stori Rod Stewart.

Dros 50 mlynedd ers rhyddhau albwm cyntaf Rod, mae Some Guys Have All The Luck – The Rod Stewart Story yn dychwelyd i theatrau yn 2022 gyda sioe newydd sbon, gan ddod â chyngerdd byw gwych i’r llwyfan i ddathlu un o arwyr mwyaf cerddoriaeth roc.

Mae’r prif ganwr, Paul Metcalfe, yn chwarae rôl Rod yn wych gan ddal holl gyffro, egni a charisma’r perfformiwr arwrol gan gynnwys y symudiadau, y dawn arddangos a’r ymdeimlad o hwyl byd-enwog sydd wedi sefydlu Rod fel un o’r perfformwyr mwyaf llwyddiannus erioed.

Mae hanner cyntaf y sioe’n cynnwys caneuon enwog o yrfa gynnar Rod fel Handbags & Gladrags ac You Wear It Well yn ogystal â ffefrynnau eraill fel Stay With Me a Twisting The Night Away, wedi’u plethu â hanesion diddorol a difyr, ac mae’n mynd â chi ar siwrne gerddorol trwy yrfa Rod dros y pum degawd diwethaf – o ddechreuadau di-nod i fod yn archseren.

Mae’r ail hanner yn barti enfawr sy’n cynnwys holl ganeuon enwocaf Rod fel Maggie May, Baby Jane, Da Ya Think I’m Sexy, Sailing, Tonight’s The Night, The First Cut Is The Deepest ac You’re In My Heart.

Mae’r cynhyrchiad dilys hwn, sydd bellach yn ei bumed flwyddyn, yn cynnwys set llwyfan syfrdanol, sioe goleuadau wych, band byw perffaith a thafluniadau sy’n llenwi’r llwyfan.

Dyddiad
21 Mai 2022
Lleoliad
Swansea Grand Theatre