Mae Jessica Fletcher yn ymweld â chuddfan ynys anghysbell sy’n eiddo i arlunydd enwog, ond cyn bo hir caiff ei thynnu i mewn i ddirgelwch llofruddiaeth y gall hi (neu chi) yn unig ei ddatrys.
Mae Solve-Along-A-Murder-She-Wrote yn noson unigryw a hynod ddoniol sy’n cynnwys gemau, gwobrau a chyfranogiad y gynulleidfa, gyda chaniatâd arbennig gan NBC Universal Television. Dewch i weld y sioe Time Outy dywedwyd mai hon oedd un o 50 o Nosweithiau Allan gorau 2019 a 2021 yn Llundain, sydd wedi cael ei pherfformio i gynulleidfaoedd ar draws y DU ac Awstralia.
Mae Solve-Along-A-Murder-She-Wrote, a gyflwynir gan un o’i phrif selogion Tim Benzie, yn cynnwys:
* Ras i ddatrys y drosedd, drwy’r Fameometer a’r Suspiciometer!
* Cwis Cabot Cove
* Cyfle i gyd-ganu’r arwyddgan gyda geiriau newydd!
* Clipiau a blogiau o’r sêr gwadd sy’n goractio!
Mae gan Tim Benzie obsesiwn â Murder, She Wrote , ar ôl gwylio’r gyfres wreiddiol pan gafodd ei darlledu am y tro cyntaf, ac mae bellach yn cael blas ar yr ailddarllediadau sydd ar y teledu ym mhob man. Dramodydd arobryn a chyd-ysgrifennwr pantomeimiau’r Royal Vauxhall Tavern o 2017 i 2023 (‘Goosed’, ‘Rubbed’, ‘Slipped’, ‘Pricked’, ‘Cracked’ a ‘Tossed’). Ef yw cynhyrchydd y clwb nos mursennaidd PopHorror.