fbpx
  • Ryan Bancroft  arweinydd
  • Jonathan Biss piano
  • James Platt bass
  • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

O’i gymal agoriadol beiddgar i’w ddiweddglo hynod a chwareus, mae Concerto Rhif 1 Beethoven i’r Piano yn un o weithiau mwyaf mawreddog a herfeiddiol ei genhedlaeth. Cafodd ei berfformio gyntaf yn 1798 gan Beethoven ei hun. Ni wyddwn lawer am ei wreiddiau hyd heddiw, ond rydyn ni yn gwybod mai ei ail goncerto oedd hwn mewn gwirionedd, ond ei fod wedi’i gyhoeddi gyntaf, ac felly cafodd ei alw’n Goncerto Rhif 1.

Er bod Shostakovich yn aml yn pechu’r Sofietiaid ac yn cael ei ddiarddel am ei arddangosiadau amlwg o hunanfynegiant ac am ei ddewis o ysbrydoliaeth lenyddol, llwyddodd i dawelu’r dyfroedd gyda Symffonïau dieiriau 11 a 12; ond trodd y drol unwaith eto gyda’r ysbrydoliaeth a sbardunodd naratif ei 13eg Symffoni.

Mae trydedd symffoni ar ddeg Shostakovich, y cyfeirir ati’n aml yn ôl ei llysenw, Babi Yar, yn ddarn theatrig a throsgynnol, sy’n llawn hiwmor chwerw ac sy’n cynnwys gosodiadau i eiriau o waith Yevtushenko yn portreadu erchyllterau Ymgyrch Barbarossa yn erbyn yr Iddewon yn Rwsia, a’r hyn yr oedd Khrushchev yn ei wrthwynebu oedd yr islais gwrth-Semitaidd a’r ffaith nad oedd y testun yn cyfeirio at y miloedd o bobl nad oeddent yn Iddewon a gafodd eu taflu yn y ceunant. Bron iddo ganslo’r première a gwaharddodd unrhyw adolygiadau gan y wasg. Ni chafodd ei chlywed am dros 20 mlynedd ond tua diwedd yr 20fed ganrif daeth yn fwy poblogaidd eto. Nid yw hyn yn syndod o gofio dyfeisgarwch a chywreinrwydd cerddoriaeth Shostakovich, gyda’i chyferbyniadau llym, ei ffraethineb craff a’i chanolbwynt cyweiraidd amwys, wedi’i chyfuno â naws glasurol gynnil a hiraeth rhamantus.

Tocynnau £12.00 – £20.00

Sylwer y bydd llwyfan mwy nag arfer ar gyfer y gyngerdd hon.

Dyddiad
10 CHWE 2024
Lleoliad
Brangwyn Hall
Price
12.00