fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Teithiwch yn ôl mewn amser a rhowch gynnig ar grefftau traddodiadol gyda’n saer coed, ein crochenydd a’n ffeltiwr!

11am – 4.30pm

Meddyliwch am gestyll ac mae’n siŵr y byddwch hefyd yn meddwl am farchogion mewn arfwisgoedd sgleiniog, neu efallai tywysoges mewn tŵr. Ond, ydych chi erioed wedi ystyried sut oedd bywyd mewn castell go iawn?

Ar ddydd Sadwrn 19 Awst byddwn yn taflu goleuni ar agweddau ar fywyd mewn castell, yn dangos y gwrthrychau pob dydd yr oedd pobl ganoloesol yn eu defnyddio ac yn esbonio sut cawsant eu gwneud.

Bydd saer coed yn dangos gwaith coed gwyrdd, sef gwaith coed gan ddefnyddio pren ffres sy’n fwy meddal ac felly’n haws i’w siapio gan ddefnyddio offer llaw. Bydd cyfleoedd i chi roi cynnig arni hefyd!

Beth am wneud jwg canoloesol neu jar storio? Bydd crochenydd ar gael hefyd er mwyn dangos sut i daflu potiau gan ddefnyddio olwyn, a bydd ffeltiwr yn gwneud gwrthrychau gan ddefnyddio gwlân.

Tâl mynediad arferol yn berthnasol.

abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth
 
Oystermouth Castle
 

Dyddiad
19 AWS 2017