Mewn partneriaeth â Tourism Ireland ac ar y cyd â’r dafarn Wyddelig enwog O’Donoghue’s, mae Seven Drunken Nights yn adrodd hanes gyrfa sy’n rhychwantu dros 50 o flynyddoedd ac yn cyfleu ysbryd Ronnie Drew, Luke Kelly, Barney McKenna, John Sheahan, Ciaran Bourke a Jim McCann.
Bydd y cast hynod dalentog hwn o gerddorion a chantorion yn dod â cherddoriaeth y grŵp eiconig hwn yn fyw.
Heb os nac oni bai, dyma’r sioe Wyddelig orau i godi’ch hwyliau.