The Story Of The Dubliners 5th Anniversary Tour.
Yn syth o’r West End, bydd Seven Drunken Nights – The Story of the Dubliners, sydd wedi gwerthu pob tocyn mewn lleoliadau ar draws y byd, yn dychwelyd i theatrau yn 2022 gyda chynhyrchiad newydd sbon fel rhan o daith anhygoel i ddathlu ei phen-blwydd yn 5 oed.
Mewn cydweithrediad â’r dafarn Wyddelig enwog O’Donoghue’s, lle dechreuodd y cyfan i’r Dubliners ym 1962, mae Seven Drunken Nights yn adrodd hanes gyrfa sydd wedi para dros 50 o flynyddoedd ac yn cyfleu ysbryd Ronnie Drew, Luke Kelly, Barney McKenna, John Sheahan, Ciaran Bourke a Jim McCann.
Mae’r cast hynod dalentog hwn o gerddorion a chantorion yn dod â cherddoriaeth y grŵp eiconig hwn yn fyw, ac mae’n siŵr o’ch annog i ddawnsio yn yr eiliau.
Heb os nac oni bai, dyma’r sioe Wyddelig orau i godi’ch hwyliau.