fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Basgedi a Mygydau Cwningen y Pasg

Dewch i fwynhau hwyl y Pasg gyda Oriel Mission. Gallwch greu a phersonoli eich basgedi papur eich hun ar gyfer y Pasg, sy’n berffaith ar gyfer casglu wyau lliwgar a danteithion blasus. Cewch fynd i ysbryd y Pasg drwy greu eich bandiau pen a’ch mygydau cwningen eich hun – yr ategolion perffaith ar gyfer helfa wyau Pasg hwyliog.

Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau

Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer unrhyw un sydd ag awtistiaeth neu anawsterau dysgu. Maent yn cynnwys fersiwn personol a hyblyg o weithdy’r bore, yn ogystal â llai o olau a sain yn yr oriel. Mae’r grwpiau’n llai a gofynnir i rieni fynychu a mwynhau’r sesiynau llai prysur hyn. Dim ond tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu y mae angen i chi ei archebu.

 

Archebwch Docynnau