Conway oedd y person cyntaf i nofio hyd Prydain hefyd, ac ef yw’r unig berson sydd wedi cwblhau treiathlon hyd Prydain, mae wedi cwblhau treiathlon hiraf y byd, sef 4200 o filltiroedd, ac mae ganddo’r record byd ar gyfer y daith feicio hunan-gynhaliol gyflymaf ar draws Ewrop, gan lywio 1600 o filltiroedd o ffyrdd Wcráin a Rwsia fel rhan o’r broses. Mae hefyd wedi beicio o amgylch y byd, rhedeg marathon ym mhob Parc Cenedlaethol yn y DU, wedi cwblhau treiathlon o amgylch Cymru ac wedi sefydlu’r her redeg fyd-eang o’r enw The 496 Challenge.