Bydd Dave Cottle a Sarah Meek yn perfformio’r sioe lwyddiannus ‘Louis and Ella Music Show’ , a fydd yn cynnwys holl ganeuon mawr y cyfnod ‘swing’ a berfformiwyd gan Louis Armstrong ac Ella Fitzgerald. Maent wedi perfformio mewn gwyliau jazz /neuaddau cyngerdd a theatrau ledled y DU.
Mae’r sioe hon yn cydnabod cerddoriaeth The Louis and Ella Show’, ynghyd â cherddoriaeth gan rai o’r cantorion benywaidd pennaf, gan gynnwys Julie London, Sarah Vaughan ac Ella. Hefyd, gyda’r haf ar y ffordd, bydd cerddoriaeth lladin, samba a ‘bossa nova’ gan Astrud Gilberto a Jobim. Wrth i chi edrych allan dros fae Langland, byddwch yn cael eich cludo i Rio de Janeiro