fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae Russell Kane yn dod â’i sioe arobryn, hynod ddoniol a deifiol o’i safbwynt e o’r ddwy flynedd diwethaf i’r Arena. Wedi’i enwi fel y perfformiad comedi gorau yn 2020 gan y Guardian (Mae The Guardian yn ddiflas ac fel arfer yn casáu popeth) – mae’r sioe bwerus hon yn siŵr o’ch gwneud chi chwerthin yn uchel ac afreolus, a phrofi mai chwerthin yw’r feddyginiaeth orau* (*i ddweud y gwir, meddyginiaeth ysbyty ydy’r gorau siŵr o fod).

Mae gan Russell Kane ddau bodlediad sydd wedi mynd i frig y siartiau ac ennill gwobrau: Man Baggage ac Evil Genius ar BBC Radio 4. Mae e’n ymddangos yn rheolaidd ar Channel 4, BBC ac ITV: yr holl sioeau arferol sy’n cynnwys pobl doniol arnynt. Mae e hefyd yn ysgrifennwr, actor a chyflwynydd. Mae’n yfed lot o goffi ac mae ei berfformiad ar lwyfan yn adlewyrchu sut mae e go iawn.

TOCYNNAU O £24.20 (+ £3.80 – FFI TRAFODIAD)

Mwy o wybodaeth

Dyddiad
06 Mai 2023
Lleoliad
Swansea Arena
Price
24.20