fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

 
Ruby Turner a’i band
 

Ganwyd Ruby Turner yn Jamaica a chafodd ei magu ym Montego Bay. Roedd ei thad-cu yn brif ganwr yn un o grwpiau gospel yr ynys. Mae Ruby yn byw yn Lloegr ers iddi symud yno yn 9 mlwydd oed.

“Canu’r enaid, gospel ac R&B: Ruby Turner yw’r gantores go iawn. Mae ganddi lais gwych sy’n gallu anadlu bywyd ac ystyr i unrhyw gân, boed hynny’n faled angerddol neu’n rhigol gyflym.” – The Guardian

Mae ei gyrfa hyd yn hyn wedi gweld llawer o droeon annisgwyl, a chyda theithiau mawr, ymddangosiadau yn y theatr ac ar y teledu, a theithio gyda Jools Holland, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iddi o hyd. Perfformiodd Ruby ‘You Are So Beautiful’ gyda Jools Holland ar 4 Mehefin 2012 yng Nghyngerdd Jiwbilî Ddeimwnt y Frenhines y tu allan i Balas Buckingham yn Llundain. Yn hydref 2012 roedd Ruby yn feirniad gwadd ar raglen y BBC, ‘The Choir: Sing While You Work with chorimaster Gareth Malone’ ac yn 2013 roedd Ruby yn feirniad gwadd yng nghystadleuaeth corau gospel ar raglen ‘Songs of Praise’ y BBC.

Cafodd ei chyfle mawr yng nghanol yr 1980au, pan ofynnwyd iddi ymuno â ‘Culture Club’ ar anterth eu gyrfa.Yn gyflym iawn dysgodd Ruby sut i ymdopi â threfn flinderus teithio, byw allan o gês dillad a pherfformio o flaen cynulleidfaoedd mawr. Cynigiwyd cytundeb recordio iddi fel unawdydd yn fuan ar ôl hyn, a llofnododd gontract gyda Jive Records, rhan o’r Zomba Group. Rhyddhawyd pedwar albwm ac albwm casgliad “Best of”, gan ennill clod y beirniaid dros y blynyddoedd nesaf, ac felly’n ei gwneud hi’n adnabyddus.

Yn dilyn hyn, aeth ati i ryddhau’r caneuon llwyddiannus ‘I’d Rather Go Blind’, ‘If You’re Ready (Come Go With Me) a’r gân a oedd yn llwyddiannus yn siartiau R&B America, y sengl a oedd yn rhif 1 y siartiau, ‘It’s Gonna Be Alright’ – dim ond un o’r deg record Prydeinig i gyflawni hyn! Ar yr adeg hon, rhyddhaodd ei halbwm llwyddiannus ‘The Motown Songbook’, lle bu’n perfformio gyda rhai o sêr nodedig y cyfnod – The Four Tops, The Temptations, Jimmy Ruffin etc. Erbyn hyn, mae Ruby wedi rhyddhau 17 albwm gan gynnwys albwm ‘Live From Glastonbury’ y BBC, yn ogystal â pherfformio gyda Brian Ferry, UB40, Steve Winwood a Mick Jagger. Hi hefyd yw un o brif ganwyr cerddorfa R&B Jools Holland, ac mae hi’n ymddangos mewn sawl cân ar ei albymau.

9.15pm
Tocynnau: £25
Canolfan Dylan Thomas
 

Canolfan Dylan Thomas:
 

Dyddiad
17 MEH 2017
Lleoliad
Dylan Thomas Centre