Mae’r sioe hon, gyda llais anhygoel Rob Lamberti, wedi syfrdanu cynulleidfaoedd o gwmpas y wlad ac Ewrop, gan beri iddynt godi ar eu traed. Mae’n sioe ddynamig sydd, mewn ffordd ystyriol a phriodol, yn dathlu gyrfa un o berfformwyr mwyaf dawnus ei genhedlaeth.
Mae’r sioe sy’n mynd o gyfnod Wham! i oes amrywiol gyrfa lwyddiannus George fel unigolyn ac sy’n cynnwys caneuon ysgubol diamser fel ‘Careless Whisper’, ‘Faith’, ‘I’m Your Man’, ‘Club Tropicana’ a mwy, yn adrodd hanes George Michael yn y repertoire eang o ganeuon a’i wnaeth yn eicon i gynifer o bobl.
Daeth Rob Lamberti, y George perffaith, diamod, yn ffefryn gan gefnogwyr ar draws gyfryngau cymdeithasol. Yn syml, fel y dywedwyd gan un o flogwyr pennaf y theatr, sef West End Wilma, mae’n ‘….sioe wych, yn ddim llai na pherffeithrwydd, a dyna ffordd hudol o dalu teyrnged i’r diweddar a’r amryddawn Mr George Michael.’
Yn yr un modd dywedodd y Southern Daily Echo fod y sioe wedi ysgogi’r ‘….gynulleidfa gyfan, o seddi’r cylch i’r balconi, i godi ar eu traed i ddawnsio.’
Mae Rob Lamberti yn seren yn ei rinwedd ei hun ar ôl ymddangos yn rhaglen ‘Even Better Than the Real Thing’ y BBC yn 2017. Mae ganddo lais sy’n deilwng i berfformio catalog rhyfeddol o ganeuon ysgubol George, ac mae wedi mynd ymlaen i sefydlu gyrfa lwyddiannus yn talu teyrnged i’w arwr. Ymddangosodd Rob hefyd yn ffilm Steve Coogan, ‘Greed’