fbpx
Theatr Awyr Agored 7 & 8 Awst
Archebwch Nawr

Trefnir gan Ganolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru, Sefydliad Diwylliannol, Prifysgol Abertawe.

Mae Kate Burton yn actor, yn gyfarwyddwr, yn athro ac yn ymgyrchydd llafur. Mae hi’n fwyaf adnabyddus am ei gwaith teledu ar Grey’s Anatomy, Scandal ac yn fwyaf diweddar Inventing Anna, The Dropout a Bosch Legacy. Ymhen ychydig bydd hi’n ymddangos yn Echo Longboard i Apple+ ac mae hi newydd orffen y ffilm Our Son, a’r ddau gyda Luke Evans. Roedd hi yng nghast Under Milkwood (Dan y Wenallt) ar gyfer dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas gyda Matthew Rhys yn Los Angeles a Michael Sheen yn Efrog Newydd (darllediad byw ar BBC Wales). Mae hi wedi ymddangos ar Broadway bymtheg gwaith a chafodd ei henwebu ar gyfer tair gwobr Tony am Hedda Gabler, The Elephant Man a gyfarwyddwyd gan Sean Mathias a The Constant Wife gyda Lynn Redgrave. Ym myd ffilm mae hi wedi ymddangos yn Big Trouble in Little China, 127 Hours gan Danny Boyle, The Ice Storm, Celebrity gan Woody Allen, Unfaithful, Rescue Me, Where’d You Go, Bernadette? a llawer mwy. Yn y Deyrnas Unedig, mae hi wedi ymddangos yn y West End yn Three Sisters a gyfarwyddwyd gan Michael Blakemore gyda Kristin Scott Thomas a Tobias Menzies, August (addasiad ffilm Gymreig o Uncle Vanya) wedi’i gyfarwyddo gan, ac yn cynnwys, Anthony Hopkins, taith The Beauty Queen of Leenane o’r DU/Iwerddon a gyfarwyddwyd gan Garry Hynes a’r gyfres fer ar CBS Ellis Island, ble mae’n ymddangos gyda’i thad.

Yn enedigol o Genefa, y Swistir, yng Nghonswl Prydain, fe’i magwyd yn Efrog Newydd o bedair oed pan ysgarodd ei rhieni, Sybil Williams (o’r Rhondda) a Richard Burton (o Bont-rhyd-y-fen). Derbyniodd ei gradd BA o Brown University a Gradd Meistr y Celfyddydau Cain (MFA) mewn actio o Ysgol Ddrama Yale, ac mae hi bellach yn Athro Ymarfer Theatr ym Mhrifysgol De Califfornia. Gan barchu ei gwreiddiau llafur Cymreig, mae’n gwasanaethu ar gyngor undeb llafur, Actor’s Equity Association, ac roedd ar y pwyllgor llywio pan unwyd SAG ac AFTRA.Mae hi’n aelod o fyrddau Broadway Cares/Equity Fights Aids ac mae’n llysgennad Elizabeth Taylor Aids Foundation. Mae hi’n byw yn Efrog Newydd ac yn LA gyda’i gŵr, Michael Ritchie, ac mae ganddynt ddau o blant, Charlotte a Morgan.

Dyddiad
17 TACH 2022
Lleoliad
Ysgol Cwm Brombil
Visit website