Ar ôl treulio pum mlynedd yn serennu fel Dean Martin yn y sioe hynod boblogaidd ar y West End, ‘The Rat Pack – Live From Las Vegas’, creodd Mark Halliday y cyntaf o nifer o sioeau poblogaidd – ‘The Rat Pack – Swingin’ At The Sands’ yn 2010.
Dros y degawd diwethaf mae’r sioe wedi mynd o nerth i nerth – fe’i perfformiwyd yn rhai o theatrau enwocaf y DU, ar longau teithio ar draws y byd, o Gatalan i Golombia, mewn digwyddiadau ar gyfer cleientiaid corfforaethol gan gynnwys Virgin Airlines ac mewn sioeau awyr agored yn Nenmarc i Dubai. Gyda’i meistrolaeth o’r llyfr caneuon Americanaidd, mae’r sioe’n ymfalchïo yn ei dilysrwydd, ei chwmnïaeth, ei chomedi a’r gallu i sicrhau bod pawb yn cael amser gwych.
Gyda Tom Russel fel Frank Sinatra, Jim Whitley fel Sammy Davis Jr a Glenn Macnamara fel Dean Martin, bydd y sioe’n cynnwys holl ganeuon enwocaf y Rat-Pack, gan gynnwys “New York, New York”, “That’s Life” a “My Way” yn ogystal â chyfle i ganu ar y cyd i amrywiaeth o ganeuon Nadoligaidd fel “Winter Wonderland” a “White Christmas”.