fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

 

Ras 100m: 2pm (cofrestrwch 11am-1.30pm)

Ras 5k: 12.30pm (cofrestrwch 11am-12pm)

 

Ymunwch â ras gymeriadau Tŷ Hafan a dewch o hyd i hoff gymeriadau eich teulu!

Mae Tŷ Hafan, hosbis plant Cymru, yn lansio ei Ras Gymeriadau gyntaf a fydd yn gweld teuluoedd sy’n codi arian yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â’u hoff gymeriadau o lyfrau straeon, rhaglenni teledu a ffilmiau.

Cynhelir y Ras Gymeriadau ddydd Sadwrn 27 Ebrill ym Mharc Singleton, Abertawe.

Yn y ras hwyl unigryw hon i godi arian, bydd plant ac oedolion yn rhedeg ras 100m neu 5km o hyd ac ar hyd y ffordd, byddant yn cwrdd â masgotiaid teledu, tywysogesau’r gaeaf, stormfilwyr, arwyr a dihirod a llawer o gymeriadau anhygoel. Bydd y rhedwyr yn gallu saliwtio’r stormfilwyr, pirwetio gyda’r tywysogesau, hisian ar ddihirod a rhoi pawen lawen i’w harwyr wrth iddynt redeg at y llinell derfyn.

Unwaith y byddant wedi cwblhau eu ras, gall y rhedwyr redeg at y llinell derfyn, casglu eu medalau, tynnu lluniau gyda’u hoff gymeriadau a mwynhau’r awyrgylch yn nigwyddiad Tŷ Hafan.

 

 

“Mae Tŷ Hafan yn rhywle lle gellir creu atgofion a’u trysori. Mae’n lle hapus, llawn chwerthin a chyfeillgarwch, felly rydym yn meddwl y bydd y Ras Gymeriadau newydd hon yn helpu pobl i greu atgofion newydd a chael llawer o hwyl”, meddai Jodie Harris, Rheolwr Digwyddiadau Tŷ Hafan.

“Wrth i ni ddathlu ugain mlynedd ers sefydlu’r elusen, mae nyrsio wedi newid yn sylweddol ond mae Tŷ Hafan wedi ymateb i’r her, wrth gyflwyno gofal lliniarol pediatrig o safon i deuluoedd ar draws Cymru. Rydym yn dibynnu ar garedigrwydd a haelioni ein cefnogwyr er mwyn cyflwyno ein gwasanaethau hollbwysig. Dyma pam rydym yn gofyn i bobl fod yn rhan o’r diwrnod mawr hwn a’n helpu i gyrraedd y targed o £40,000 i’n helpu i baratoi ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf.

Gall cyfranogwyr – y mae croeso iddynt wisgo gwisg ffansi os ydynt am wneud hynny – ddewis i redeg ras 100m ar gyfer plant dan 5 oed (y mae’n rhaid iddynt redeg gydag oedolyn cyfrifol) a fydd yn cynnwys masgotiaid teledu a’r ras 5km sy’n agored i unrhyw un dros 5 oed.

Yn ogystal â’r ffi gofrestru fach, mae Tŷ Hafan yn gofyn i gyfranogwyr osod targed i’w hunain o £15 ar gyfer y ras 100m a £50 ar gyfer y ras 5k (£20 a gyfer plant dan 16 oed) er hyn, mae’r elusen am bwysleisio y croesewir unrhyw swm.

 

Ras 100m (i rai dan 5 oed)   £5 ffi gofrestru

Ras 5k (i rai 5+ oed)   £10 ffi gofrestru
neu £9 ar gyfer grwpiau o bump neu fwy

 

COFRESTRWCH HEDDIW

 

Ni fydd hi’n bosib cofrestru ar ôl 20 Ebrill (neu’n gynt os bydd y lleoedd yn llenwi – cofrestrwch nawr i osgoi cael eich siomi!)

I gael mwy o wybodaeth am y Ras Gymeriadau, ewch i tyhafan.org/character-chase neu e-bostiwch events@tyhafan.org

 

Dyddiad
27 EBR 2019
Lleoliad
Parc Singleton