fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae’r panto gorau i oedolion yn ôl – ac eleni, tro Jack and the Beanstalk yw hi i gael triniaeth P*ssed Up Panto® .

Mae P*ssed Up Panto® wedi bod yn achosi llanast doniol iawn o gwmpas y DU ers 2021 gyda’u cynhyrchiad o Cinderella ac Aladdin – a nawr maen nhw nôl gyda sioe newydd sbon ar gyfer 2024!

Mae P*ssed Up Panto® sydd wedi bod yn llenwi theatrau ym mhob cwr o’r wlad, wedi datblygu’r fformiwla berffaith ar gyfer panto i oedolion sy’n achosi dagrau chwerthin a seddau gwlyb ar draws y genedl!

Ond beth yn union yw P*ssed Up Panto®? Wel os ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth fyddai cast pantomeim yn ei wneud pe na bai plant yn y gynulleidfa…yna ‘dych chi hanner ffordd yno! Ychwanegwch at hynny bleidlais gan y gynulleidfa dros un aelod o’r cast sy’n gorfod cyflawni her yfed anwaraidd drwy gydol y sioe (wrth i’r perfformwyr eraill wneud eu gorau glas i barhau â’r stori tan ei ‘diwedd hapus’) a gallwch weld pam y gallai unrhyw beth ddigwydd – a bydd fwy na thebyg yn!

Mae’n llawn ensyniadau, perfformiadau comedi doniol, parodïau o ganeuon enwog a chyfranogiad gan y gynulleidfa, gan greu perfformiad sy’n ddoniol iawn, yn eofn, yn ddigywilydd ac weithiau ychydig bach yn ddrwg… wel… yn ddrwg IAWN!

Gyda chast o berfformwyr pantomeim proffesiynol, profiadol ac un neu ddau yfwr proffesiynol, yn ogystal â chast ensemble arbennig, setiau syfrdanol, cerddoriaeth wych a pherfformiadau comedi doniol iawn, dyma noson y bydd cynulleidfaoedd yn ei chofio am weddill eu bywydau!

Pa mor a drawiadol yw Coeden ffa Jack?! Dim ond un ffordd sydd i gael gwybod, fechgyn a merched!

Argymhellir eich bod yn archebu’n gynnar gan fod tocynnau ar gyfer P*ssed Up Panto yn gwerthu’n gyflym mewn theatrau ar hyd a lled y wlad – peidiwch â’i golli!

Sylwer: Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref a themâu oedolion ac nid yw’n addas i’r rheini sy’n digio’n rhwydd.

Dyddiad
03 CHWE 2024
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
23.00